Galw am lety yn ardal Bangor i weithwyr iechyd ac
argyfwng
Mae Menter Môn yn galw
ar berchnogion llety o amgylch Bangor yng Ngwynedd i gofrestru eu tai,
bythynod, fflatiau, carafanau neu unrhyw fath o lety hunan-gynhwysol sy’n wag
ac yn rhydd. Mae hyn ar gyfer eu cynnig AM DDIM i weithwyr iechyd ac
argyfwng.
Yn sgil y Coronafeirws,
mae nifer o weithwyr maes iechyd ac argyfwng angen lle i aros dros dro. Er mwyn
eu helpu i ddod o hyd i lety fydda’n gweithio iddyn nhw, mae Menter Môn wedi
sefydlu Ciando, sef cynllun i adnabod llety am ddim i’r gweithwyr yn
ystod y cyfnod heriol hwn.
Mae’r cwmni bythynod
gwyliau Dioni yn cynorthwyo I gydlynu ac hyd yn hyn mae
dros 130 llety wedi cofrestru ar y system, ond mae prinder o amgylch ardal
Bangor. Gyda nifer o weithwyr maes iechyd yn gweithio yn Ysbyty Gwynedd mae
angen iddynt gael lle i aros sydd ddim mwy na 30 munud i ffwrdd o
Bangor.
Oes gennych chi le gwag
o amgylch ardaloedd Bangor, Bethesda, Llanberis, Caernarfon, Y Felinheli,
Penygroes, Waunfawr, Llangefni, Biwmares, Porthaethwy, Caergybi? Dewch i
helpu – gallwch wneud gwahaniaeth!
Cyllidwyd y prosiect hwn
drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig
Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop
ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod
Dadgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Gwynedd ac Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys
Môn.
No comments:
Post a Comment