Grŵp Cyswllt Trydydd Sector - diweddariad
Coronafeirws //
Gobeithio eich
bod chi i gyd yn cadw'n iawn ac yn saff ystod yr amser ansicr hwn. Hoffwn eich
diweddaru ar nifer o brosiectau a phecynnau cymorth sydd ar gael i drigolion
Gwynedd. Mae Cyngor Gwynedd a Mantell Gwynedd sy'n cydlynu’r maes gwirfoddol yn
y sir, wedi cydweithio i ddatblygu canllaw syml i Grwpiau Cymunedol sy’n
sefydlu trefniadau lleol ar gyfer cefnogi trigolion bregus. Yn ogystal â'r
canllawiau hyn, rwyf wedi llunio crynodeb o'r cymorth sydd ar gael gan y Cyngor
a’n partneriaid. Rwy'n gobeithio y bydd yr isod yn ddefnyddiol ac mae yna
groeso i chi rhannu’r wybodaeth gyda’ch cysylltiadau a rhwydweithiau. Mae
gwefan Cyngor Gwynedd yn cael ei diweddaru’n ddyddiol felly cofiwch sicrhau
eich bod ymweld â’r gwefan www.gwynedd.llyw.cymru er mwyn gweld y
wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau a'r gefnogaeth sydd ar gael i'n
trigolion yn ystod yr amser anodd hwn.
Help i bobl a chymunedau
Mae cymunedau ar draws Gwynedd wedi rhoi cynlluniau lleol
ar waith i helpu’r trigolion fwyaf bregus. Ewch i'r dudalen isod i
ddarganfod mwy am:
- sut i amddiffyn eich iechyd a'ch lles - cyngor sy'n
arbennig o bwysig ar hyn o bryd
- gwybodaeth ar sut a pwy all helpu yn y cymunedau gyda
chyfeiriaduron ar gyfer ardal Bangor, ardal Caernarfon, ardal De Meirionnydd,
ardal Llŷn, ardal Gogledd Meirionnydd / Eifionydd
Os nad oes grŵp lleol i chi yn ymddangos yno, cysylltwch
â Galw Gwynedd ar 01766 771000 gan ofyn am y Tîm Cysylltwyr Cymunedol i gael
eich rhoi mewn cyswllt â grŵp lleol.
Gwaith gwirfoddol neu gyflogedig dros dro gyda Chyngor
Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am bobl sydd ar gael i
weithio (mewn swydd gyflogedig, neu mewn rôl wirfoddol) i helpu i gynnal
gwasanaethau i bobl fregus.
Banc Gwirfoddolwyr Mantell Gwynedd
Mae Mantell Gwynedd yn gorff ymbarél ar gyfer grwpiau
cymunedol ac elusennau ar draws Gwynedd. Mae nifer o grwpiau lleol a chymunedol
hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr i fod yn gyfaill ac i helpu gyda siopa bwyd a
nwyddau angenrheidiol i drigolion sy’n gorfod aros yn eu cartrefi.
Mae canolfan wirfoddoli Gwynedd yn llunio cofrestr o wirfoddolwyr fyddai'n
awyddus i helpu unigolion yn ein cymunedau yn sgil y sefyllfa bresennol gyda’r
coronafeirws.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Mantell Gwynedd, Ffôn -
01286 672626 https://www.mantellgwynedd.com/gwirfoddoli.html
Cynllun Cyfaill eich pentref
Mae’r Cyngor a Mantell Gwynedd wedi cydweithio i
ddatblygu Canllaw i Grwpiau Cymunedol sy’n
sefydlu trefniadau lleol ar gyfer cefnogi trigolion bregus.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01766 771000.
Os hoffech gychwyn rhwydwaith neu grŵp sy’n cynnig
cefnogaeth i’ch cymuned ac angen arweiniad ar sut i wneud hyn, yna gallwch gysylltu
gyda Thîm Cefnogi Cymunedau Gwynedd.
Rheolwr Gwasanaethau Cefnogi Cymunedau – Lindsey Ellis
Edwards lindseyellisedwards@gwynedd.llyw.cymru Ffôn-01286 679 164
Gwasanaethau Cyngor Gwynedd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cymryd y penderfyniad i gau
lleoliadau ar draws y sir. Mae’r penderfyniad wedi ei gymryd i warchod iechyd y
cyhoedd a staff, yn unol â chyngor y Llywodraeth o ran ymbellhau cymdeithasol.
Mae manylion llawn am y gwasanaethau sydd bellach ar gau
i’w gweld drwy ymweld â https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Argyfwng/Coronafeirws-Covid-19-Gwasanaethaur-Cyngor.asp
Age Cymru
Mae Age Cymru yn cynnig gwasanaeth ffôn sgwrsio ar gyfer
pobl dros 70 oed yng Nghymru sy'n byw ar eu pennau eu hunain. Gall unrhyw un
dros 70 oed yng Nghymru gofrestru am ddim i dderbyn galwad ffôn rheolaidd. Am
fwy o wybodaeth, cysylltwch â Age Cymru ar 08000 223 444 neu ewch i www.ageuk.org.uk/cymru
Banciau Bwyd
Mae banciau bwyd yn wynebu her a dyfodol ansicr wrth i
Coronafeirws ledu. Mae’r sefydliad yn annog aelodau’r cyhoedd i barhau i roi rhoddion.
Am fwy o wybodaeth ewch i <https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Argyfwng/Help-i-bobl-a-chymunedau.aspx> a chliciwch ar y
botwm ‘Banciau Bwyd’.
CGGC
Mae’r CGGC wedi creu ‘categori cyllido coronafeirws’
newydd ar eu gwefan er mwyn ddod a’r holl gronfeydd sy’n cefnogi’r sector
gwirfoddol at ei gilydd. Am fwy o wybodaeth, ewch i <https://wcva.cymru/cy/hafan/>
____________________________________________________________________________________________________________________________
Third Sector Liaison Group
- Coronavirus update
I hope you are all keeping safe and well during this
difficult time. I would like to update you on a number of projects and support
packages which are available for Gwynedd residents. Gwynedd Council and Mantell
Gwynedd who co-ordinates the voluntary sector in the county have worked
together to develop a simple guide for Community Groups which are establishing
local arrangements for supporting vulnerable residents. As well as these
guidelines, I have included a summary of the support that is available from the
Council and partners. I hope the information below will be of use, and you are
welcome to share it with your contacts and networks. The Gwynedd Council
website is updated daily therefore please remember to visit in order to see the
latest developments and support available to Gwynedd residents during this
difficult time www.gwynedd.llyw.cymru
Helping people and Communities
Communities across Gwynedd have set up local arrangements
to support the most vulnerable residents. Visit the page below to find out more
about:
- how to protect your health and well-being – advice
which is particularly important at the moment
- information on who can help in the Communities, with
directories for the Bangor area, Caernarfon area, South Meirionnydd area, Llŷn
area, North Meirionnydd / Eifionydd area
If you cannot find a group local to you on the lists,
please contact Galw Gwynedd on 01766 771000 and ask for the Community
Connectors Team and to be put in touch with a local group.
Voluntary and temporary work with Gwynedd Council
Gwynedd Council is looking for people available to work
(as volunteers or temporary paid staff) to help maintain essential service for
vulnerable people.
If you are able to help, please get in touch gofalu@gwynedd.llyw.cymru T-01286 679577 or 07384 876908
Mantell Gwynedd’s Volunteering Bank
Mantell Gwynedd is an umbrella organisation which
supports voluntary and community groups in Gwynedd. There are many local
and community groups that are searching for people to volunteer their help with
food shopping and shopping for essential items on behalf of those who cannot
leave their homes. The Gwynedd volunteer centre is compiling a register of
volunteers who would be willing to help individuals in our Communities in light
of the current coronavirus situation.
For further information, contact Mantell Gwynedd 01286
672626 https://www.mantellgwynedd.com/eng/volunteering.html
Your village's Buddy Scheme
Gwynedd Council and Mantell Gwynedd have worked together
to develop a Guide for Community Groups who have
/ want to establish groups to support vulnerable residents. For more
information please contact Galw Gwynedd on 01766 771000.
If you would like assistance to set up a network or
group, please contact the Gwynedd Supporting Communities Team.
Gwynedd Supporting Communities Team Manager – Lindsey
Ellis Edwards
lindseyellisedwards@gwynedd.llyw.cymru T-01286 679 164
Gwynedd Council Services
In accordance with Government advice regarding social
distancing, public amenities across Gwynedd have been temporarily closed to
protect the public.
Full details of the services which have now closed with
immediate effect can be seen by visiting https://www.gwynedd.llyw.cymru/en/Residents/Emergencies/Coronavirus-Covid-19-Our-services.aspx
Age Cymru
Age Cymru is offering a check-in-and-chat telephone
service for the over 70s in Wales who live alone. Anyone over 70 in Wales
can register free of charge, to receive a regular telephone call. For
more information, please call Age Cymru on 08000 223 444 or visit www.ageuk.org/cymru
Food Banks
Food banks are facing an unprecedented challenge and
uncertain future as Coronavirus spreads. The organisation is urging the public
to continue to donate. For more information, visit https://www.gwynedd.llyw.cymru/en/Residents/Emergencies/Helping-people-and-communities.aspx and click on the ‘Food Banks’ button.
WCVA
The WCVA have created a new ‘coronavirus funding
category’ on their website to bring together funds that are directly supporting
the voluntary sector in this time of need. For further information, visit
https://wcva.cymru/
No comments:
Post a Comment