Taclo tlodi mislif – CYNGOR
GWYNEDD
Mae nwyddau
mislif ar gael am ddim i’r rhai sydd eu hangen yng Ngwynedd fel modd o daclo
tlodi mislif a hefyd i godi ymwybyddiaeth o fuddiannau amgylcheddol cynnyrch y
gellir ei ail-ddefnyddio.
Diolch i grant
gan Lywodraeth Cymru, mae sawl ymgyrch yn cael eu rhedeg ochr yn ochr gan
Gyngor Gwynedd er mwyn sicrhau mynediad i’r nwyddau, a hynny gydag urddas.
Mae’r
cyfyngiadau sydd mewn lle ar hyn o bryd i atal lledaeniad Coronafirws wedi
arwain at rhai newidiadau i’r gwahanol ymgyrchoedd. Mae’r sefyllfa hefyd wedi
amlygu eu pwysigrwydd gan fod pobl sy’n cysgodi (shielding) methu mynd
i’r siopau fel yr arfer, yn ogystal â’r rhai sydd wedi gweld gostyngiad
mewn incwm, wedi cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd.
Yr ymgyrchoedd am ddim yw:
TRAC 11-24 - Mae staff Cyngor Gwynedd wedi
bod yn dosbarthu pecynnau o nwyddau mislif eco-gyfeillgar, y gellir eu
ail-ddefnyddio i bobl fregus o gefndiroedd difreintiedig neu nad ydynt mewn
cyswllt â’r system addysg brif-ffrwd. Drwy hyrwyddo ar gyfryngau cymdeithasol
yn unig, mae mwy na 160 o becynnau wedi cael eu dosbarthu i bob rhan o’r sir. I
dderbyn pecyn, gall unrhyw berson ifanc yrru eu henw a chyfeiriad at trac@gwynedd.llyw.cymru
Canolfannau Dechrau’n Deg - Mae
pecynnau o gynnyrch mislif eco-gyfeillgar y gellir eu ail-ddefnyddio wedi bod
ar gael i famau a merched ifanc ar incwm isel ym mhob un o’r chwe canolfan
cefnogi teuluoedd yng Ngwynedd. Mae’r ddarpariaeth yma wedi parhau drwy gydol y
pandemig.
Banciau bwyd - Mae llawer o sylw wedi bod
i’r ffaith fod pwysau ariannol y cyfnod cloi wedi arwain at lawer mwy o
deuluoedd ar draws Prydain yn troi at fanciau bwyd, gyda’r un yn wir yma yng
Ngwynedd. Mae’r Cyngor yn sicrhau fod cyflenwad am ddim o nwyddau mislif ar
gael ym mhob banc bwyd lleol drwy ddargyfeirio’r cyflenwad fyddai ar gael yn y
llyfrgelloedd lleol fel rheol, gan eu bod wedi gorfod cau oherwydd y pandemig.
Mae gwybodaeth, a manylion cyswllt, holl fanciau bwyd Gwynedd ar gael yma: www.gwynedd.llyw.cymru/HelpCymunedol
Ysgolion – Mae nwyddau mislif ar gael am
ddim i holl ddisgyblion ysgol sydd eu hangen o flwyddyn pump i flwyddyn 13. Tra
bo disgyblion yn cael eu haddysgu o adref, dylai unrhyw un sydd angen nwyddau
gysylltu â’u hysgol. Mae manylion cyswllt pob ysgol yng Ngwynedd ar gael yma: www.gwynedd.llyw.cymru/ChwilioAmYsgol
*********************************
Tackling period poverty –
GWYNEDD COUNCIL
Free menstrual
products are available to those who need them in Gwynedd as a way of tackling
period poverty and also to raise awareness of the benefits to the environment
of using re-usable products.
Thanks to a Welsh
Government grant, several parallel schemes are being run by Gwynedd Council to
allow access to products in a dignified way.
The current
restrictions in place to prevent the spread of Coronavirus has led to some
changes to the schemes. The situation has also amplified their importance as
those shielding and unable to go to the shops as normal, or those on a reduced
income, have been placed in a difficult situation.
The free schemes are:
TRAC
11-24 -
Gwynedd Council staff have been distributing packs of eco-friendly, re-usable
menstrual products to vulnerable people from underprivileged backgrounds or who
are disengaged from mainstream education. By publicising their availability
through social media alone, more than 160 packs have been distributed to all
parts of the county. To receive a free pack, any young person can send their
name and address to trac@gwynedd.llyw.cymru
Flying
Start Centres - Packs
of eco-friendly, re-usable menstrual products have been available to mothers
and young girls on low income at all six family support centres in Gwynedd.
This provision has remained available during the pandemic.
Food
banks - It is
much publicised that the financial pressures of lockdown has led to many more families
turning to food banks across the UK, with the same being true here in Gwynedd.
The Council is ensuring that there is a free supply of menstrual products
available at local food banks by diverting the supply that would normally be
available at local libraries – which have closed because of the pandemic.
Information, and contact details, of all Gwynedd food banks are available here: www.gwynedd.llyw.cymru/HelpCymunedol
Schools
- Free menstrual
products are available to all school pupils from year five to year 13 who needs
them. As pupils are currently being educated at home, anyone who needs
products should contact their school. Contact details of all Gwynedd schools
are available here: www.gwynedd.llyw.cymru/FindASchool
No comments:
Post a Comment