Dear all,
Our new website triage tool which will help Welsh citizens find advice and support for their individual circumstances during the COVID-19 pandemic is now live.
The tool signposts to a range of information across the following themes:
§ Being unemployed or not having any work
§ Going in to work
§ Money / Social Housing & Private Sector
§ Getting food
§ Getting medicines
§ Feeling unsafe
§ Having somewhere to live
§ Mental health and wellbeing
§ Physical Health and Wellbeing
It also includes a new risk assessment tool for Black, Asian and Ethnic Minority People.
Whilst the tool can be used by anyone, for themselves or on behalf of someone else (including people without access to the internet), it will be particularly useful to those vulnerable to the effects of COVID-19 – whether medically or for some other reason such as due to their financial situation. We know you may be helping many of these people already and we see the tool as a helpful addition, signposting people to existing support yourselves or others are already providing.
How you can help?
Firstly we’d like to let you know the tool is available for you to use as a resource when contacted directly by Welsh citizens looking for support.
Secondly we’d like your help in ensuring people who may need advice and support know about the tool. We’d hope you can promote the existence of the tool through your social media or other channels and pass on the word to any organisations you work with locally who may be helping people on the front line. We’ve included some social media graphics and suggested messages to help you with this.
We also understand that not everyone is online. When promoting the tool we will be reinforcing the message that anyone needing urgent support should contact their local authority in the first instance - this will include the digitally excluded. We have developed some information sheets / booklets picking out some of the key content from the tool around which you will find included. We’d appreciate your help in getting these out to local organisations working on the front line.
The triage tool will continue to be developed with forms of support added and removed as they becomes relevant. If you have any thoughts or suggestions on the tool then you can get in touch with us via:
Thank you.
|
Annwyl bawb,
Mae ein teclyn brysbennu nawr ar-lein a bydd yn helpu dinasyddion Cymru i ddod o hyd i gyngor a chymorth ar gyfer eu hamgylchiadau unigol yn ystod pandemig COVID-19.
Mae'r teclyn yn cyfeirio at ystod o wybodaeth ar draws y themâu canlynol:
§ Bod yn ddi-waith neu heb unrhyw waith
§ Mynd i'r gwaith
§ Arian/tai cymdeithasol yn y sector preifat
§ Cael gafael ar fwyd
§ Cael gafael ar foddion
§ Teimlo'n anniogel
§ Cael rhywle i fyw
§ Iechyd meddwl a lles
§ Iechyd a lles corfforol
Mae hefyd yn cynnwys teclyn asesu risg newydd ar gyfer pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Er y gall unrhyw un ddefnyddio'r teclyn ar gyfer ei hunan neu ar ran rhywun arall (gan gynnwys pobl heb fynediad i'r rhyngrwyd), bydd yn arbennig o ddefnyddiol i'r rheini sy'n agored i effeithiau COVID-19 – boed hynny'n feddygol neu am ryw reswm arall, e.e. eu sefyllfa ariannol. Rydym yn gwybod efallai eich bod yn helpu llawer o'r bobl hyn yn barod ac rydym yn gweld yr offeryn fel ychwanegiad defnyddiol, sy'n cyfeirio pobl at y cymorth presennol rydych chi eich hun neu eraill eisoes yn ei ddarparu.
Sut y gallwch chi helpu?
Mae'r teclyn ar gael i chi ei ddefnyddio fel adnodd pan fydd dinasyddion Cymru yn cysylltu'n uniongyrchol â chi i chwilio am gymorth.
Yn ail, hoffem gael eich help i sicrhau fydd pawb sydd angen cymorth arnynt yn gwybod am yr teclyn. Hyrwyddwch fodolaeth y teclyn drwy eich cyfryngau cymdeithasol neu sianeli eraill a throsglwyddo'r gair i unrhyw sefydliadau yr ydych yn gweithio gyda hwy yn lleol, a allai fod yn helpu pobl yn y rheng flaen. Rydym wedi cynnwys rhai graffigau cyfryngau cymdeithasol a negeseuon awgrymedig i'ch helpu gyda hyn.
Deallwn hefyd nad yw pawb ar-lein. Wrth hyrwyddo'r teclyn byddwn yn atgyfnerthu'r neges y dylai unrhyw un sydd angen cymorth brys gysylltu â'i awdurdod lleol yn y lle cyntaf - bydd hyn yn cynnwys y rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol. Rydym wedi datblygu rhai taflenni gwybodaeth/llyfrynnau sy'n crynhoi peth o'r cynnwys allweddol o'r teclyn. Byddem yn gwerthfawrogi eich help i ddosbarthu rhain i sefydliadau lleol sy'n gweithio ar y rheng flaen.
Bydd y teclyn brysbennu'n parhau i gael ei ddatblygu gyda'r mathau o gymorth yn cael eu hychwanegu a'u dileu wrth iddynt ddod yn berthnasol. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar y teclyn, gallwch gysylltu â ni drwy e-bost:
Diolch yn fawr.
|
Wednesday, 8 July 2020
Llywodraeth Cymru- teclyn brysbennu nawr ar-lein / Welsh Government - Website triage tool
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Profiadau Covid-19 Experiances
Dywedwch wrthym am eich profiadau presennol o'r pandemig Covid-19 a'ch safbwyntiau ar adferiad Mae Age Cymru a phartneriaid allw...
-
Gwybodaeth Coronafeirws - Cadw'n ddiogel - Ieithoedd Ychwanegol Wrth inni agosáu at wyliau’r ŵyl a’r cynnydd anochel wrth gymysg...
-
Rydym wedi derbyn 8 router 4G gan y Llywodraeth I helpu gyda’r ymateb I Covid-19 ac rydym eisiau eu gosod mewn llefydd sydd heb broadba...
-
EYST Wales – Fforwm ar lein Brechiad Covid - Sesiwn Gwybodaeth Gydag arbenigwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru Dydd Mercher, 1...
No comments:
Post a Comment