Friday, 6 November 2020

Cyfnewidfa Arfer Da - Iechyd meddwl a lles yn ystod COVID-19 / Good Practice Exchange - Mental health and wellbeing during COVID-19

Cyfnewidfa Arfer Da

 

Iechyd meddwl a lles yn ystod COVID-19

Mae bywyd wedi newid, mae gwaith wedi newid, rydyn ni wedi newid. Ond beth allwn ei ddysgu o'n profiadau?

 

Mae'n anochel bod y pandemig Coronafeirws wedi cael effaith ar les meddyliol llawer o bobl i raddau amrywiol.

 

O weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol allweddol ar y rheng flaen yn trin COVID, i'r rhai sy'n gwarchodi, yn byw ar eu pen eu hunain, neu'n gwirfoddoli yn y gymuned - mae'r feirws wedi effeithio ar bawb.

 

Yn ystod y gweminar hwn byddwn yn clywed sut mae gwasanaethau cyhoeddus wedi addasu'r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn ystod y pandemig yn ogystal â'u llwyddiannau a'u heriau. Yn benodol, byddwn yn canolbwyntio ar:

  • Gwasanaethau yn y gymuned yn cydweithio i ddarparu cymorth iechyd meddwl
  • Cefnogi iechyd a lles staff
  • Sut y gellir cymryd mantais o dechnoleg i oresgyn unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol
  • Sut beth yw arwain sefydliadau drwy bandemig
  • Dulliau gwahanol o ddarparu cymorth iechyd meddwl

Yn ogystal â hyn byddwn hefyd yn clywed gan We are Platfform, a fydd yn rhannu negeseuon allweddol o'u 'Gwersi o’r Cyfnod Cloi' ac yn rhoi darlun o iechyd meddwl a lles yng Nghymru.

Ble a phryd

Dydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020
10:00 – 11:30
  

Yn unol â chanllawiau ymbellhau cymdeithasol disgwyliedig, bydd y gweminar hwn yn 100% arlein. Bydd dolenni ar sut i fod yn bresennol yn cael eu hanfon at bawb sy’n mynychu.

Cofrestru

I gofrestru ar gyfer y seminar, llenwch ein ffurflen cadw lle ar-lein [agorir mewn ffenest newydd]. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Dylech sicrhau eich bod yn rhoi eich cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn cadw lle er mwyn sicrhau y gallwn anfon gwybodaeth atoch chi.

Am ragor o wybodaeth ar y digwyddiad, anfonwch e-bost i good.practice@audit.wales


 


 Good Practice Exchange

 

Mental health and wellbeing during COVID-19

Life has changed, work has changed, we have changed. But can we learn from our experiences?

The Coronavirus pandemic has inevitably had an effect on many people’s mental wellbeing to varying degrees.

From key health and social care workers on the frontline treating COVID hands on, to those shielding, living alone, or those volunteering in the community – everyone has been impacted by the virus.

During this webinar we will hear how public services have adapted the services they provide during the pandemic as well as their successes and challenges. In particular we’ll be focusing on:

  • Community based services working together to provide mental health support
  • Supporting staff health and wellbeing
  • How technology can be harnessed to overcome loneliness and social isolation
  • What it’s like to lead organisations through a pandemic
  • Different approaches to providing mental health support

As well as this we will also hear from We are Platfform, who will share key messages from their ‘Lessons from Lockdown’ and provide a picture of mental health and wellbeing in Wales.

Where and when


Tuesday 1 December 2020
10:00 – 11:30

In line with expected social distancing guidelines, this webinar will be 100% virtual. Links on how to attend will be sent to all delegates.

Register

To register for the seminar please complete our online booking form [opens in new window]. We have a delegate privacy notice [opens in new window], telling you how we deal with your personal data as part of the registration process.

Joining instructions are circulated 1-2 weeks before the event. Please ensure you provide your email address when booking a place to ensure that we can send information to you.

For further information on the event, please email good.practice@audit.wales


No comments:

Post a Comment

Profiadau Covid-19 Experiances

  Dywedwch wrthym am eich profiadau presennol o'r pandemig Covid-19 a'ch safbwyntiau ar adferiad Mae Age Cymru a phartneriaid allw...