Friday, 17 December 2021

Cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru / Announcement from Welsh Government

 

Yn dilyn y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru, mae angen i ni roi rhyw 215,000 o frechiadau COVID-19 ychwanegol mewn 17 diwrnod yn unig.

Mae'r logisteg sydd ynghlwm wrth fwy na threblu ein cyfradd frechu bresennol yn hynod heriol, ond rydym yn hyderus y gallwn sicrhau bod pigiadau atgyfnerthu ar gael i'r holl oedolion cymwys yng Ngogledd Cymru erbyn 31 Rhagfyr.

Rydym yn gweithio'n hynod galed y tu ôl i'r llenni er mwyn sicrhau bod modd i hyn ddigwydd - ond mae arnom angen amser i roi'r holl hanfodion yn eu lle.

Dros yr wythnos nesaf, bydd cannoedd o staff a gwirfoddolwyr ychwanegol yn ymuno â'n hymdrech frechu.  Bydd hyn yn caniatáu cynyddu'r capasiti yn ein clinigau brechu presennol ac iddynt fod ar agor yn hwyrach. Caiff clinigau ychwanegol eu cyflwyno hefyd (gan gynnwys rhai galw heibio) a bydd llawer iawn mwy o feddygfeydd a fferyllfeydd cymunedol yn dechrau cynnig pigiadau atgyfnerthu.

Sut i gael eich pigiad atgyfnerthu

Er ein bod yn dal i weithio ar rai o'r manylion, dyma sut y gall pobl ddisgwyl manteisio ar eu brechlyn atgyfnerthu:

Os nad ydych wedi cael gwahoddiad eto, bydd modd i chi drefnu apwyntiad ar-lein yn fuan neu i fynd i glinig galw heibio (bydd rhagor o fanylion yn dilyn maes o law). Efallai y caiff rhai pobl eu gwahodd yn uniongyrchol gan eu meddygfa neu eu fferyllfa gymunedol - ond rydym yn erfyn ar bobl i beidio â ffonio i holi am apwyntiadau ar hyn o bryd.

Os oes gennych apwyntiad ym mis Rhagfyr eisoes, gofynnwn i chi gadw ato. Peidiwch â chysylltu â ni i'w aildrefnu gan fod hyn yn arafu ein hymdrechion i amddiffyn eraill.

Os ydych eisoes wedi cael gwahoddiad i apwyntiad ym mis Ionawr, byddwn yn cysylltu â chi'n fuan i'ch gwahodd i drefnu apwyntiad ar-lein yn ystod mis Rhagfyr.

Os ydych yn gaeth i'r tŷ, nid oes angen cysylltu â ni. Mae'ch manylion gennym eisoes ac rydym yn gweithio mor gyflym â phosibl i'ch cyrraedd cyn diwedd mis Rhagfyr.

Sut i fanteisio ar ddos cyntaf neu ail ddos ar gyfer yr holl grwpiau oedran cymwys

Nid yw hi byth yn rhy hwyr i ddod atom am ddos cyntaf o'r brechlyn rhag COVID-19 - hyd yn oed os gwnaethoch ei wrthod pan gafodd ei gynnig yn y lle cyntaf.

Yn fuan, bydd modd i chi drefnu dosiau cyntaf ac ail ddosiau ar-lein.

Bydd cyfleoedd i alw heibio hefyd a byddwn yn cyhoeddi manylion am y rhain ar-lein ac yn y cyfryngau lleol lle bynnag y bo'n bosibl.


Byddwn yn rhoi diweddariad pellach yfory. Peidiwch â chysylltu â'r bwrdd iechyd na'ch meddygfa i geisio trefnu apwyntiad gan na fyddwn yn gallu trefnu apwyntiad i chi'n gynt fel hynny.

 

Diolch am eich amynedd, eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth. 

 

Following the announcement from the Welsh Government, we need to administer around 215,000 additional COVID-19 vaccinations in just 17 days. 

 

The logistics involved in more than tripling our current vaccination rate are extremely challenging, but we are confident that we can make booster jabs available to all eligible adults in North Wales by December 31st. 
 
We are working incredibly hard behind the scenes to make this happen - but we need time to put the necessary building blocks in place. 
 
Over the next week, hundreds of additional staff and volunteers will join our vaccination effort.  This will enable capacity at our existing vaccination clinics to increase and for them to open later. Additional clinics will also be introduced (including drop ins) and many more GP Practices and community pharmacies will begin delivering boosters. 
 
How to get your booster 
 
While some details still need to be worked through, this is how people can expect to access their booster vaccine: 
 
If you've not yet been invited you will soon be able to book online or attend a drop in clinic (further details to follow soon). Some people may be invited directly by their GP practice or community pharmacy – but we urge people not to phone up to enquire about appointments at this time. 
 
If you already have an appointment in December please keep to it. Don't contact us to rearrange as this slows down our efforts to protect others. 
 
If you have already been invited to an appointment in January, we will contact you soon to invite you to book an appointment online during December. 
 
If you are housebound there is no need to contact us. We already have your details and are working as quickly as we can to get to you before the end of December. 
 

How to access a first or second dose for all eligible age groups 
 
It’s never too late to come forward for a first dose of the COVID-19 vaccine - even if you turned it down when it was first offered. 

 

You will soon be able to book first and second doses online. 

 

We will also have walk-in opportunities and we’ll publicise these online and in the local media wherever possible. 

 
We will provide a further update tomorrow. Please don’t contact the health board or your GP Practice to try and book an appointment as we won’t be able to book you in any sooner.  

 

Thank you for your patience, support and understanding.  

 

 

 

No comments:

Post a Comment

Profiadau Covid-19 Experiances

  Dywedwch wrthym am eich profiadau presennol o'r pandemig Covid-19 a'ch safbwyntiau ar adferiad Mae Age Cymru a phartneriaid allw...