Tuesday, 31 March 2020

Benthyciadau carlam mewn argyfwng / Emergency fast-track loans


Benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu drwy effeithiau gwaethaf llifogydd a’r Coronafeirws.

Mewn ymateb i hyn, mae Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru CGGC yn cynnig benthyciadau carlam mewn argyfwng i fudiadau’r sector gwirfoddol yng Nghymru i’w helpu drwy’r effeithiau gwaethaf.
Ar yr un pryd, mae’r rheini â benthyciad eisoes yn cael cynnig yr opsiwn o ohirio taliadau am gyfnod.

Benthyciadau carlam mewn argyfwng

Bydd y benthyciadau’n cael eu teilwra i anghenion unigol pob ymgeisydd o ran swm, cyfnod a phroffil ad-dalu. Maen nhw’n dechrau gyda dalen wag – beth sydd ei angen arnoch? Beth sy’n eich siwtio orau o ran cyfnodau neu ad-daliadau?
Sylweddolir bod cyflymder y broses benderfynu a chyflymder y cyllid sydd ar gael yn hollbwysig, fel y gall mudiadau ymateb yn gyflym wrth i bethau ddatblygu. Felly, rydyn ni am leihau’r broses ymgeisio cymaint â phosibl. Bydd hyn yn golygu y bydd y mwyafrif o fudiadau a gymeradwyir yn gweld yr arian yn eu cyfrifon banc o fewn saith niwrnod i gyflwyno ffurflen gais gyflawn (yn unol â chael llofnod ar ddogfennaeth yn brydlon)
Dyma’r meini prawf cymhwyso: –
  • Menter gymdeithasol gorfforaethol neu elusen sydd wedi’i leoli yng Nghymru
  • Effaith y gellir ei dangos ar lif arian yn sgil y llifogydd neu’r Coronafeirws
  • Angen cael asedau newydd am eu bod wedi’u difrodi mewn llifogydd
Gellir defnyddio’r arian ar gyfer y canlynol: –
·       Cefnogi’r llif arian
·       Prynu asedau newydd yn lle’r hen rai
·       Pontio hawliadau yswiriant a dderbynnir

Cysylltu

Os hoffech wneud cais am fenthyciad carlam mewn argyfwng cysylltwch â thîm Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru ar sic@wcva.cymru neu 0300 111 0124.


WCVA are offering emergency fast-track loans to voluntary sector organisations in Wales to help see them through the effects of coronavirus and recent flooding.

In response to this, [http://social%20investment%20cymru/]Social Investment Cymru at WCVA is offering emergency fast-track loans to voluntary sector organisations in Wales to help see them through the worst of the effects.
At the same time, existing loan holders are being offered the option to defer payments for a time.

Emergency fast-track loans

Loans will be tailored to each applicant’s individual needs in terms of amount, term and repayment profile. They start with a blank piece of paper – what do you need? What best suits you in terms or repayments?
We recognise that speed of decision making and speed of availability of funds are paramount, so that organisations can react quickly as events unfold. We are therefore reducing the application process to its bare minimum. This will mean that the majority of organisations being approved will see money in their bank accounts within 7 days of submitting a completed application (subject to prompt signature of documentation)

Eligibility criteria are: –

  • Incorporated social enterprise or charity based in Wales
  • Demonstrable effect on cash flow from flooding or Coronavirus
  • Need to replace assets damaged in flooding

Money can be used for: –

  • Support for cash flow
  • Purchase of replacement assets
  • Bridging of receipt of insurance claims

Get in touch

If you’d like to apply for an Emergency fast-track loan, please contact the SIC team on sic@wcva.cymru or 0300 111 0124


Grantiau Argyfwng Covid-19

No comments:

Post a Comment

Profiadau Covid-19 Experiances

  Dywedwch wrthym am eich profiadau presennol o'r pandemig Covid-19 a'ch safbwyntiau ar adferiad Mae Age Cymru a phartneriaid allw...