|
Wellbeing Support - RCS
Whether working from home, furloughed, or
out on the front-line, many employed or self-employed people may find
themselves affected by stress or anxiety because of the current situation.
If you are in need of support or
reassurance at this difficult time, RCS can help. We are now providing our
wellbeing support services over phone, Skype or Whatsapp – our experienced
team can provide mentoring and coaching support, with rapid access to counselling,
CBT or other talking therapies through our professional associates. We can
also refer to specialist services such as benefits advice or HR support, and
can provide tips and techniques for maintaining physical wellbeing.
Alongside this one-to-one support, we have
launched a series of wellbeing webinars for employers to share with their
teams free of charge. These are on-line versions of our popular wellbeing
workshops. The webinars are tailored to cover many of the issues currently
affecting the workforce, offering tips and tools on topics such as Motivation
and Resilience, Managing Stress, and Sleep.
Our support is available for people who
live and work in North Wales, and is 100% free and confidential.
|
Cefnogaeth Lles- RCS
Os ydych yn gweithio adref, ar gyfnod o
seibiant o’r gwaith neu allan fel un o’r gweithwyr rheng flaen, gall nifer o
bobl cyflogedig neu hunangyflogedig bryderu neu deimlo straen oherwydd y
sefyllfa bresennol.
Yn ystod y cyfnod anodd hwn, os ydych angen
cefnogaeth neu gysur, gall RCS gynorthwyo. Ar hyn o bryd, rydym yn darparu
gwasanaeth cefnogaeth lles dros y ffôn, Skype neu Whatsapp- gall ein tîm
profiadol ddarparu cefnogaeth hyfforddi a mentora, gyda mynediad cyflym at
gyfleusterau cwnsela, CBT neu fathau eraill o therapi siarad drwy
gysylltiadau proffesiynol. Gallwn hefyd gyfeirio at wasanaethau arbenigol gan
gynnwys cyngor budd-daliadau neu gefnogaeth Adnoddau Dynol, a gallwn ddarparu
syniadau a thechnegau ar gyfer cynnal lles corfforol.
Ochr yn ochr â’r gefnogaeth hon i’r unigolyn,
byddwn hefyd yn lansio cyfres o weminarau i gyflogwyr eu rhannu gyda’u tîm
staff yn rhad ac am ddim. Bydd y rhain yn fersiynau ar-lein o’n gweithdai
lles poblogaidd. Bydd y gweminarau yn cael eu teilwra i ymdrin â nifer o’r
materion sy’n effeithio ar y byd gwaith ar hyn o bryd, gan gynnig awgrymiadau
a chyngor ar faterion megis Cymhelliant a Gwydnwch, Rheoli Straen, a Chwsg.
Mae’r gefnogaeth ar gael i bobl sy’n byw ac
yn gweithio yng Ngogledd Cymru, ac mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim, ac yn
gwbl gyfrinachol.
|
Thursday, 30 April 2020
Cefnogaeth Lles - RCS // Wellbeing Support - RCS
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
Profiadau Covid-19 Experiances
Dywedwch wrthym am eich profiadau presennol o'r pandemig Covid-19 a'ch safbwyntiau ar adferiad Mae Age Cymru a phartneriaid allw...
-
Gwybodaeth Coronafeirws - Cadw'n ddiogel - Ieithoedd Ychwanegol Wrth inni agosáu at wyliau’r ŵyl a’r cynnydd anochel wrth gymysg...
-
Rydym wedi derbyn 8 router 4G gan y Llywodraeth I helpu gyda’r ymateb I Covid-19 ac rydym eisiau eu gosod mewn llefydd sydd heb broadba...
-
EYST Wales – Fforwm ar lein Brechiad Covid - Sesiwn Gwybodaeth Gydag arbenigwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru Dydd Mercher, 1...
No comments:
Post a Comment