Cymorth dal ar
gael i ddioddefwyr er gwaethaf amodau Coronafeirws
Mae help ar gyfer rhai sy’n dioddef trais, camdriniaeth
ac esgeulustod dal i fod ar gael yn y cyfnod hwn o argyfwng a achoswyd gan y
pandemig Coronafeirws.
Mae cynnydd rhyngwladol a chenedlaethol o drais ddomestig
wedi ei weld yn yr ardaloedd sydd ble cyflwynwyd cyfyngiadau symud ac mae’r
patrwm yma yn debygol o gael ei weld yng Ngwynedd hefyd. Yn ogystal, mae mwy o
blant yn debygol o fod mewn perygl o gael eu hesgeuluso gan nad ydynt yn dod i
gyswllt a’u hathrawon a’r awdurdodau eraill sy’n helpu i’w cadw’n ddiogel fel
arfer.
Mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i gael y neges allan i bobl
fregus o bob oed a chefndir fod gwasanaethau dal ar agor ac fod cymorth dal ar
gael yn y cyfnod hwn o bellhau cymdeithasol ac hunan-ynysu.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor
Gwynedd sy’n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol: “Mae’r cyfyngiadau a gyflwynwyd
er mwyn arafu lledaeniad Coronafeirws wedi arwain at broblem gymdeithasol
arall. Mae’n ffaith drist nad yw pob cartref yn le diogel ac mae’r sefyllfa yn
ein poeni.
“Bydd cael eu cau i fewn gyda cymar neu aelod arall o’r
teulu sy’n eu cam-drin yn achosi pryder mawr i rai pobl, yn enwedig gyda’r
straen ychwanegol o fod â plant gartref trwy’r dydd. Dwi’n awyddus i wneud yn
siŵr fod pobl yn deall fod gwasanaethau cyhoeddus dal i fod ar agor ac mae help
ar gael.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Rydw i’n galw ar
y cyhoedd i gadw golwg ac i fod yn gymorth i oedolion neu blant sy’n cael eu
rhoi yn y sefyllfa anodd yma.
“Os ydych yn meddwl fod plentyn neu oedolyn bregus yn
cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso, yna os gwelwch yn dda cysylltwch â’r
awdurdodau perthnasol. Mae’n bosib eich bod yn poeni am aelod o’r teulu,
cymydog neu gyd-weithiwr. Os ydych yn amau fod rhywbeth ddim yn iawn, os
gwelwch yn dda codwch y ffôn neu gysylltwch dros y we. Peidiwch a rhoi eich hun
mewn peryg na gwneud dim all wneud pethau’n waeth i’r dioddefwr.”
Cysylltiadau defnyddiol:
Trais yn y cartref: Mae’r llinell
gymorth genedlaethol Byw Heb Ofn ar gael 24/7.
Ffoniwch: 0808 80 10 800
Testun: 07860077333
Gwasanaeth sgwrsio byw: www.llyw.cymru/byw-heb-ofn/cam-drin-domestig-yng-nghymru
Plant: Os ydych meddwl fod plentyn yn cae ei gam-drin neu ei
esgeuluso, cysylltwch os gwelwch yn dda â Gwasanaeth Cefnogi Plant a Theuluoedd
Cyngor Gwynedd: 01766 772577.
Oedolion: Os ydych meddwl fod oedolyn bregus
yn cae ei gam-drin neu ei esgeuluso, cysylltwch os gwelwch yn dda â
Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd: 01766 772 577
Mewn argyfwng: Os ydych yn meddwl fod rhywun (yn
oedolyn neu’n blentyn) mewn perygl dybryd, ffoniwch 999 a gofynnwch am yr
Heddlu.
Help still available for victims
despite Coronavirus lockdown
Help for
victims of violence, abuse and neglect is still available throughout this
period of national emergency caused by the Coronavirus pandemic.
There has
been a national and global increase in the number of domestic abuse cases where
lockdown measures have been introduced. This pattern is likely to emerge here
in Gwynedd too. Also, more children are likely to be in danger of neglect
because they’re not in contact with their teachers and other organisations
which usually help keep them safe.
Gwynedd
Council is keen to get the message out to vulnerable people of all ages and
backgrounds that services are still open and help is still available in these
times of social distancing and self-isolation.
Councillor
Dafydd Meurig, Gwynedd Council’s Cabinet Member with responsibility for
community safety, said: “The lockdown put in place to limit the spread of Coronavirus
has led to another social problem – it’s a sad fact to think that not all homes
are safe, the situation is a cause of concern for all of us.
“Being
cooped up all day with an abusive partner or family member, possibly with the
added strain of having children in the house all day, may be causing some
people real anxiety. I want people to know that public services are still open
and available to help.”
Councillor
Dafydd Meurig added: “I’m also asking the wider public to be an extra pair of
eyes and ears and help adults and children who have been placed in this
difficult situation.
“If you
think a child or a vulnerable adult is being neglected or abused, please
contact the relevant authority. You may be concerned about a family member, a
neighbour or a colleague. If you suspect something isn’t right, please pick up
the phone or get in touch on-line. Don’t put yourself at risk or do anything
which could result in the victim being in greater danger.”
Useful
contacts:
Domestic
abuse - The national
Live Fear Free support line for the victims of domestic abuse is available
24/7:
Phone:
0808 80 10 800
Text:
07860077333
Children – Please contact Gwynedd Council’s
Children and Families Support Services if you’re concerned a child is being
abused or neglected: 01766 772577.
Vulnerable
adults – Please
contact Gwynedd Council’s Social Services if you’re concerned a vulnerable
adult is being abused or neglected: 01766 772577.
Emergency – If you think that anyone (adult or
child) is in imminent danger, call 999 and ask for the Police.
No comments:
Post a Comment